cawod
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈkau̯.ɔd/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol cawat o'r Gelteg *kowVt- neu *kuwVt- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *ḱeh₁-u- a welir hefyd yn y Lladin caurus ‘gwynt y gogledd-orllewin’, y Lithwaneg šiáurė ‘gogledd’, šiaurỹs ‘gwynt y gogledd’ a'r Rwseg séver (се́вер) ‘gogledd’. Cymharer â'r Gernyweg kowas a'r Llydaweg kaouad.
Enw
cawod b (lluosog: cawodau, cawodydd)
- (meteoroleg) Cyfnod byr o fwrw gwlybaniaeth, fel glaw, cesair, eirlaw neu eira, ac a nodweddir gan ddechrau a diwedd sydyn ac sy'n amrywio'n gyflym o ran dwyster.
- Heddiw fe fydd heulwen ond ambell gawod hefyd.
- Dyfais a ddefnyddir i ymdrochi lle mae dŵr yn chwistrellu i lawr ar gorff yr ymdrochwr, naill ai o danc neu drwy weithrediad pwmp.
- Ymdrochiad gan ddefnyddio'r dyfais hon.
- Dw i'n mynd dan gawod.
Amrywiadau
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: cawodog, cawodlyd, digawod, gwrthgawod
- cael cawod
- mynd dan gawod
Cyfieithiadau
|
|