carn

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Carnau fforchog o'r iwrch gydag ewinedd fferau amlwg

Cynaniad

  • /ˈkarn/

Geirdarddiad

O'r Gelteg *karnos o'r ffurf *ḱr̥h₂-nó-s ar y gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ḱerh₂- ‘corn’ a welir hefyd yn y Lladin cornū ‘corn’, y Saesneg horn ‘corn’ a'r Pwyleg sarna ‘iwrch’. Cymharer â'r Gernyweg a'r Llydaweg karn.

Enw

carn g (lluosog: carnau)

  1. (swoleg) Gorchudd crwm cornaidd o geratin sy'n gwarchod blaen troed neu'n cau fel gwain am bennau bysedd y traed ar garnolyn ac yn gyfatebol i ewin neu grafanc.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau