bual

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
bual (1) Ewropeaidd, Bison bonasus
bual (2) o Hochdorf, diwedd 6g. CC

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈbɨ̞.al/
  • yn y De: /ˈbiː.al/, /ˈbi.al/

Geirdarddiad

Benthycair o’r Lladin būbalus. Cymharer â’r Gernyweg bual ‘bual, byfflo’, y Llydaweg bual ‘byfflo’ a’r Wyddeleg buabhall ‘byfflo; corn yfed’.

Enw

bual g (lluosog: buail)

  1. (swoleg) Bucholyn mawr heidiol o’r genws Bison, uwch ei ysgwyddau na’i bedrain, a chanddo mwng trwchus cedenog a phen anferth â chyrn byr crwm.
  2. (yn hanesyddol) Llestr wedi’i wneud o gorn bual; corn yfed.

Hypernymau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau