broch

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Broch Ewrasiaidd, Meles meles

Cynaniad

  • /broːχ/

Geirdarddiad

O’r Gelteg *brokkos ‘blaen, miniog’ o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *bʰr- ‘blaen, min’. Cymharer â’r Gernyweg brogh, y Llydaweg broc’h a’r Wyddeleg broc.

Enw

broch g (lluosog: brochod)

  1. (swoleg) Unrhyw un o amryw garlymoliaid turiol, nosol, hollysol a chydnerth o dri is-deulu’r Melinae, Taxideinae a Mellivorinae, a chanddo goesau byrdewion, ewinedd hirion ar ei draed blaen, blew llwydwynion trewchus a streipiau gwynion hyd ei ben trwynfain.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau