bach
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- /baːχ/
Geirdarddiad
- Ansoddair: Cymraeg Canol bych o'r Gelteg *bikkos. Cymharer â'r Llydaweg bac'h ‘cyfyng’.
- Enw: Hen Gymraeg bach o'r Gelteg *bakkos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *bak(k)- a welir hefyd yn y Lladin baculum, bac(c)illum ‘ffon, ateg’, Iseldireg (taf.) peg ‘peg’, Hen Roeg báktron a'r Latfieg bakstīt ‘procio, pwnio’. Cymharer â'r Gernyweg bagh, y Llydaweg bac'h a'r Hen Wyddeleg bacc.
Ansoddair
bach
- Rhywbeth na sydd yn fawr; amherthnasol; ychydig o ran nifer neu faint.
- Hufen ia bach
- Gwnaeth i ni deimlo'n fach.
- Yn ifanc, fel plentyn
- Roedd nifer o blant bach yno.
Cyfystyron
Gwrthwynebeiriau
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|
Enw
bach g (lluosog: bachau)
- Darn crwm neu blygedig o fetel neu ddefnydd arall i gipio pethau, dal gafael neu gydio ym mhethau, hongian pethau arno, a.y.y.b.
- Bachyn pigfain adfachog o fetel a roddir ar ben lein bysgota gydag abwyd arno i ddal pysgod; bach pysgota.
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
- cyfansoddeiriau: cigfach, colfach, crogfach, gafaelfach
- tarddeiriau: bachell, bachiad, bachog, bachu, bachwr, bachyn
Cyfieithiadau
|
|