allan o drefn

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Geirdarddiad

O'r geiriau allan + o + drefn

Idiomau

allan o drefn

  1. Heb fod yn gweithio'n briodol;wedi torri.
    Roedd y peiriant talu yn y maes parcio allan o drefn.
  2. Heb fod yn y man priodol mewn perthynas â phethau eraill; yn anrhefnus.
    Roedd y dogfennau allan o drefn yn llwyr am na chawsant eu ffeilio'n gywir.
  3. Yn torri'r rheolau cydnabyddedig e.e. mewn cyfarfod.
    "Rydych chi allan o drefn yn llwyr!" siarsiodd Siaradwr Tŷ'r Cyffredin.

Cyfystyron

Cyfieithiadau