Neidio i'r cynnwys

adnabod

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Sillafiadau eraill

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /adˈnabɔd/
  • yn y De: /adˈna(ː)bɔd/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol atnabot o'r bôn *atna- + bot ‘bod’; y bôn drwy haploleg o *at(ni)nā- o'r Gelteg *ati-gni-gnā- (a roes yr Hen Wyddeleg ad·gnin) o'r ffurf Indo-Ewropeg *ǵn̥néh₃ti, ffurf bresennol gyda mewnddodiad trwynol ar wreiddyn *ǵneh₃- ‘adnabod, gwybod’ a welir hefyd yn yr Almaeneg können ‘gallu’, y Lithwaneg žinóti ‘gwybod’ a'r Tsieceg znát ‘adnabod’. Cymharer â'r Cernyweg Canol asnowos a'r Llydaweg ana(v)out. Cytras â gnawd.

Berfenw

adnabod berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: adnabydd-)

  1. cysylltu rhywbeth neu rywun rydych yn gweld yn y presennol gydag atgof o ryw gyfarfyddiad blaenorol gyda'r un endid
    Roeddwn yn adnabod ei fam am ein bod wedi mynychu'r un capel flynyddoedd lawer yn ól.

Cyfystyron

Cyfieithiadau