Wiciadur:Cwestiynau Cyffredin

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
(Ail-gyfeiriad oddiwrth Wiciadur:Cwestiynau Poblogaidd)

Bwrw ati[golygu]

C: Sut ydw i'n ychwanegu gair newydd?

A: Gallwch ychwanegu gair newydd drwy wneud y cysylltiad perthnasol yn Wiciadur:Testunau. Gweler hefyd Cymorth:Dechrau tudalen newydd.

C: Blae mae'r rhestr yn ol trefn yr wyddor?

A: Ceisiwch ddefnyddio'r adnodd chwilio yn lle. Rhestra Special:Allpages holl dudalennau Wiciadur, gan gynnwys y tudalennau adnoddau yn y gofod-enw Wiciadur:.

C: Rwyf wedi dod o hyd i air cyffredin sydd ar goll o'r Wiciadur, ac roeddwn yn ystyried ei ychwanegu fel hedyn-gofnod. Ond ymddengys eich bod eisiau cofnodion cyflawn neu ddim byd! Dw i ddim yn ieithydd. Dw i jest yn teimlo fel rhywun a allai gyfrannnu rhai diffiniadau geiriadurol syml. Wn i ddim byd am etymoleg, cyfeithiadau na dim! Gyda Wicipedia mae llawer o bobl yn ddigon hapus i fynd yno, copio, golygu a.y.b. A yw hynny'n berthnasol fan hyn hefyd?

A: Ydy! Mae Wiciadur yn parhau i fod llawer llai o faint na Wicipedia, ond mae meddylfryd y wici yr un mor gryf. Os nad yw gair yn bodoli, ychwanegwch ef. Os na wyddoch ddim am etymoleg, mae hynny'n iawn; mae'r cyfraniad lleiaf a mwyaf di-nod yn cael ei groesawu. Gall rhywun arall ychwanegu'r etymoleg yn hwyrach. Y lleiafswm sydd angen i chi gynnwys yw'r gair, ei rhan ymadrodd (e.e. berf, enw, ansoddair a.y.b.) a'i ystyr.
Fodd bynnag, os ydych yn cyfrannu cyfeithiad, mae'n bwysig gwybod i ba ystyr o'r gair y mae'r cyfieithad yn berthnasol.

C: Dw i wedi gwneud peth gwaith heb greu cyfrif, ond nawr hoffwn greu enw defnyddiwr i ddangos fy ngwaith fy hun. Sut dw i;n creu enw defnyddiwr newydd?

A: Yn syml, cliciwch ar y ddolen Mewngofnodi yn y gornel dde ar frig pob tudalen Wiciadur neu Arbennig:Userlogin.

Fformat yr erthygl[golygu]

C: Sut ydw i'n fformatio erthyglau? A oes fformat safonol y dylwn i ddefnyddio?

A: Ceir canllawiau ar y pwnc hwn yn Wiciadur:Esbonio diwyg cofnodion. Ceir lefelau gwahanol o addasrwydd ar y dudalen honno, sy'n parhau i esblygu wrth i dechnegau newydd ddatblygu i ddelio ag ystod eang o sialensau sy'n ymwneud a ieithoedd gwahanol.

C: Mae rhai pobl yn creu dolenni i eiriau eraill wrth iddynt deipio diffiniad. Oherwydd y bydd pob gair Cymraeg yn cael eu hychwanegu i Wiciadur yn y pen draw, efallai y gallai rhywun ychwanegu cod (a ellir ei ddiffodd o bosib) a fyddai'n cysylltu pob gair i'w cofnod cyfatebol.

A: Pan mae erthygl yn cael ei chreu, mae'r feddalwedd yn gwirio pob gair sydd a [[ ]] o'i amgylch i weld os oes erthygl ar gyfer y gair hwnnw'n bodoli. Mae'n ei ddangos yn las os yw'n bodoli neu'n goch os nad yw'r erthygl ar gyfer y gair wedi cael ei chreu eto. Dim ond ffracsiwn o eiliad mae'n cymryd i wirio gair, ond os yw'n gorfod gwirio mwy o eiriau mae'n cymryd mwy o amser. Pe bai pob gair yn gorfod cael ei wirio, byddai hyn yn arafu'r system yn ddifrifol. Mae hyn yn digwydd eisoes mewn erthyglau gyda dolenni niferus. Mewn gwirionedd, pa mor aml mae angen dolen i air fel "a"?
Hefyd, yn aml mae'n gliriach i gysylltu i air cyfansawss, neu darddiad y gair, yn dibynnnu ar ei ystyr.

Ysgrifennu diffiniadau[golygu]

C: Sut ddylwn i ddechrau ysgrifennu diffiniadau?

'A: Mewn ffordd, mae ysgrifennu diffiniad yn dipyn o gamp. Dechreuwch drwy ddod o hyd i esiamplau lle mae'r gair yn cael ei ddefnyddio, ac ysgrifennwch ddiffiniad a fyddai'n gywir ar gyfer yr holl esiamplau. Mae'n bosib iawn fod gan air sawl diffiniad gwahanol. Yna gallwch ychwanegu'r dyfyniadau fel esiamplau. Gweler hefyd Cymorth:Ysgrifennu diffiniadau & How to Write a Dictionary Definition.

C: A oes ffordd na ddylwn i ysgrifennu diffiniadau?

A: Ni ddylid copio diffiniadau o eiriadur neu gyfeirlyfrau eraill heb eu cydnabod.

C: Alla i ddefnyddio'r hyn dw i'n ffeindio mewn geiriaduron a chyfeirlyfrau eraill? Sut? Faint?

A: Cewch a na chewch! Dylai Wiciadur adlewyrchu'r iaith yn y modd y mae'n cael ei defnyddio, a gwneir hynny orau drwy gyflwyno dystiolaeth o ddefnydd. Nid yw pob geiriadur yn darparu'r math hwn o dystiolaeth ac felly mae'n bosib ei fod yn adlewyrchu'r defnydd o iaith pan gafodd y geiriadur hwnnw ei gyhoeddu. Mae cyhoeddiad 1913 o eiriadur Webster yn adnodd sy'n rhad ac am ddim, ond rhaid ychwanegu gwybodaeth ato er mwyn dangos sut y mae iaith wedi newid ers 1913.
Ceir materion hawlfraint gyda geiriaduron mwy cyfoes. Hefyd, mae gan rhai cyfeirlyfrau arbenigol a llyfrau eraill yr unig ddiffiniad cywir ar gyfer termau technegol, ond mae'n bosib eu bod wedi eu diogelu gan hawlfraint. Mae defnydd teg yn bwysig yn y fan yma, ac mae'n berthnasol cyn belled nad ydym yn defnyddio gormod o wybodaeth o un ffynhonnell. Pa bryd bynnag yr ydym yn defnyddio ffynhonnell yn y modd hwnnw, rhaid ei gydnabod. Mae'r materion cyfreithiol sy'n ymwneud a'r pwnc hwn yn gymhleth iawn, ac mae'n syniad da i ffeindio ffordd arall o fynegi'ch hun fel nad yw defnydd teg yn gorfod bod yn ffactor.

Cyfyngu a/neu gosod trefn ar ddiffiniadau[golygu]

C: Er mwyn osgoi tuedd, a ddylwn i weithiau gyfyngu neu osod trefn ar ddyfyniadau er mwyn osgoi rhoi'r argraff fod geiriau anghyffredin neu defnydd anghyfarwydd o air yn fwy cyffredin nag y maent mewn gwirionedd?

A: Dylech. Mewn theori dylai'r gair hynaf gael ei rhestri'n gyntaf, ond os nad oes data hanesyddol mae'n anodd gwneud hyn. Yn ogystal â hyn, weithiau mae dyfyniadau'n cysylltu â'i gilydd a dylent fod yn agos i'w gilydd mewn amgylchiadau fel hyn. Mae penderfynu pa ddefnydd yw'r mwyaf cyffredin neu boblogaidd yn golygu cynnwys eich safbwynt eich hun, a dylid osgoi hyn. Mae creu cysylltiadau i Wicipedia neu gyfeiriadau i Eiriadur yr Academi yn well ffyrdd o sicrhau fod y diffiniadau'n gyflawn.

Torri hawlfraint[golygu]

C: Gwelais ddeunydd sydd a hawlfraint arno mewn erthygl benodol, a gyflwynwyd gan ddefnyddiwr ABC. Beth ddylwn i wneud?

A: Mewn prosiect fel hwn, nid yw byth yn hawdd penderfynu os yw rheolau hawlfraint wedi cael eu torri. Nid yw defnydd teg (gweler isod) yn torri'r hawlfraint. Os ydych yn amau fod erthygl yn cynnwys deunydd sydd â hawlfraint arno, dilynwch y camau canlynol:
  1. Peidiwch a mynd i banig, a gwnewch eich gwaith cartref.
  2. Ar dudalen sgwrs yr erthygl, dangoswch pam yr ydych yn meddwl fod hawlfraint wedi cael ei dorri. Yn benodol dangoswch yn union ble rydych yn credy y cafodd y testun sydd o dan amheuaeth ei gyhoeddi'n wreiddiol.
  3. Allan o gwrteisi, os cafodd y deunydd ei osod gan ddefnyddiwr cofrestredig, gadewch iddo wybod ar ei dudalen sgwrs ond byddwch yn gwrtais.
  4. Ychwanegwch [[Categori:Cais i wirio hawlfraint]] i'r erthygl. Nid oes angen dileu'r deunydd sydd o dan amheuaeth yn syth.

C: Beth yw hawlfraint?

A: Cyfeiria hawlfraint at hawl economaidd egsliwsif unigolyn i ddefnyddio ac ecsploitio ei gynhyrchiadau creadigol ac artistig ei hun. Mae hyd yr hawlfraint yn dibynnu'n bennaf ar gyfreithiau'r wlad lle mae'r person hwnnw'n byw. Mae'n bosib fod hawliau moesol yn cyd-fynd a'r hawlfraint megis yr hawl i gael cydnabyddiaeth am ei waith neu gwaith. Os yw hawlfraint ar ddarn o waith wedi dirwyn i ben, dywedir fod y gwaith hwnnw yn y parth cyhoeddus.

C: Beth yw defnydd teg?

A: Yn syml, cyfeiria "defnydd teg" at ganiatau dyfyniadau o weithiau gan bobl eraill sydd a hawlfraint arnynt. Nid yw'r cysyniad yn berthnasol i weithiau sydd eisoes yn y parth gyhoeddus. Rhaid rhoi cydnabyddiaeth addas i unrhyw ddyfyniad o'r fath. Gall benderfynu a yw unrhyw ddyfyniad yn ddefnydd teg fod yn fater anodd i'w ddatrys. Yn y mwyafrif o achosion, bydd dyfynnu diffiniad unigol neu ddarn byr o waith unrhyw awdur yn cael ei ystyried yn ddefnydd teg.

Gofod-enwau[golygu]

C: Weithiau gwelaf gyfeiriad at "ofod-enwau" (namespace) mewn trafodaethau. Beth yw hynny?

A: Cyfres o dudalennau sydd wedi eu llunio er mwyn gwneud swyddogaeth benodol ydy gofod-enwau. Dynodir gofod-enwau gan ragddodiad, yna colon, megis Sgwrs:lliw. Yr unig eithriad i hyn yw gofod-enw yr "erthygl", sy'n cynnwys erthyglau cylweddol ar gyfer y Wiciadur; nid oes ganddo rhagddodiad. Gweler Cymorth:Gofod-enwau am fwy o wybodaeth. Trefnir erthyglau mewn gofod-enwau a chwilir amdanynt ar wahan i'r rhai eraill mewn gofod-enwau eraill. Mae'n bosib fod gan erthyglau mewn gofod-enwau gwahanol enwau yn union yr un peth ar ol y rhagddodiad.

C: Ble allaf i weld rhestr o gofod-enwau bywiog?

A: Gweler Wiciadur:Gofod-enwau neu Arbennig:Allpages. Ar hyn o bryd, yr "(erthyglau)", "Sgwrs", "Defnyddiwr", "Sgwrs defnyddiwr", "Wiciadur", "Sgwrs Wiciadur", "Delwedd", "Sgwrs delwedd", "MediaWiki", "MediaWiki talk", "Nodyn", "Sgwrs nodyn", "Cymorth", "Sgwrs cymorth", "Categori", "Sgwrs categor", "Mynegai", "Sgwrs mynegai", "Wicisawrws" a "Sgwrs Wicisawrws" ydynt.

C: Beth ydy ffug-ofod-enwau?

A: Grwp o erthyglau yn y gofod-enw "erthygl" gyda rhagddodiad cyffredin wedi ei fformatio yn yr un modd a rhagddodiad gofod-enw go iawn. Mae'r rhain yn cael eu trefnu o fewn y gofod-enw hwnnw fel petai'r rhagddodiad yn rhan o enw'r erthygl.

C: A yw'n bosib cyfyngu chwiliad i un gofod-enw penodol?

A: Ydy, mae Arbennig:Allpages yn eich galluogi i chwilio am ofod-enwau unigol.


Cyfeirio Wiciaduron o Wicipedias eraill[golygu]

C: Beth yw Trawswici?

A: Ffordd o symud erthyglau o un wici i un arall ydy trawswici (yn achos Wiciadur, o Wicipedia o Wiciadur). Yn ei hanfod, mae'n gosod yr erthyglau sydd wedi cael eu hysgrifennu yn y prosiect anghywir. Wrth osod yr erthygl yn y gofod-enw "Trawswici:" mae'r trosglwyddwr yn medru ei adael yno heb boeni am ein fformat ac a fyddwn yn ei dderbyn neu beidio.

C: A yw [[wiktionary:cenedl]] neu [[wikt:cenedl]] yn gyfeiriad addas o Wicipedias eraill i Wiciaduron?

A: O Wicipedia, dylai [[wiktionary:cenedl]] neu [[wikt:cenedl]] gysylltu a'r Wiciadur yn yr un iaith.

Beth yw nodyn?[golygu]

C: Beth yw nodyn Wiciadur?

A: Jargon Wiciadur ydy nodyn syn golygu cofnod yn y gofod-enw Nodyn: sy'n cymryd lle cynnwys y nodyn ym mha le bynnag y caiff ei roi mewn erthygl.

C: Sut mae'n gweithio?

A: Mae rhywun yn creu nodyn megis template:Wikipedia. Yna, bydd eraill yn ei ddefnyddio trwy ychwanegu'r testun {{Wicipedia}} yn eu herthyglau. Pan fo unrhyw un yn arddangos hynny yn yr erthygl, mae'r testun o template:Wikipedia yn cael ei gynnwys ar y dudalen honno. Yn yr achos hon, mae'r nodyn yn creu blwch sy'n cynnwys dolen i'r erthygl sydd a'r un enw yn Wicipedia,

C: Ymhle allaf i weld rhestr o'r nodiadau hyn?

A: Gweler Wiciadur:Rhestr o nodiadau.