Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Cymorth:Prif dudalen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Ychwanegu adran
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Pwyll ym mhwnc Awgrym

Awgrym

[golygu]

Dwi wedi darllen trwy'r testun fel a ofynodd Pwyll yn y Caffi ar y Wicipedia Cymraeg heno. Dwi ddim yn gweld unrhyw wallau amlwg ond hoffem gynnig y gwelliant yma i'r adran gyntaf lle ceir

"Teipiwch y gair yn y blwch chwilio. Os nad yw'n bodoli eisoes, cliciwch ar y ddolen goch er mwyn mynd at dudalen newydd lle gallwch chi greu diffiniad o'r gair."

Buaswn i'n awgrymu y gallai hyn fod yn eglurach i newydd-ddyfodiad trwy ychwanegu hyn:

"Teipiwch y gair yn y blwch chwilio a chliciwch ar Mynd neu Chwilio. Os nad yw'r cofnod yn bodoli eisoes, bydd tudalen 'Canlyniad y chwiliad' yn ymddangos. Cliciwch ar y ddolen goch er mwyn mynd at dudalen newydd lle gallwch chi greu diffiniad o'r gair.

Dim ond awgrym; fel arall mae'r cyfarwyddiadau yn hynod eglur. Gobeithio fod hynny o gymorth. Anatiomaros 21:19, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Diolch Anatiomaros! Awgrym da sy'n symleiddio'r dudalen ymhellach. Wedi gwneud y newid. Pwyll 09:22, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb