Llydaw
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈɬədau̯/
Geirdarddiad
Hen Gymraeg Litau o’r Frythoneg Letavia ‘y Cyfandir, yn enwedig ar draws y Sianel gyferbyn â’r Ynysoedd Prydain’ o’r Gelteg *φlitawjā. Cymharer â’r Llydaweg barddonol Ledav, y Gernyweg barddonol Lesow a’r Hen Wyddeleg Letha.
Enw Priod
Llydaw b
- Rhanbarth hanesyddol a chyn-ddalaith yng Ngogledd-Orllewin Ffrainc ar orynys rhwng y Sianel a Bae Gwasgwyn. Cyfaneddwyd tua 500 OC gan Frythoniaid a yrrwyd allan o’u mamwlad gan yr Eingl-Sacsoniaid. Ymgorfforwyd y rhanbarth yn ffurfiol yn Ffrainc yn 1532.
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|