Archifio trafodaethau'r Dafarn
Tudalen gymorth i esbonio sut i archifio trafodaethau'r Dafarn yw hon. Awgrymir y dylid archifio trafodaethau'r Dafarn pan fo trafodaeth yn anfywiog a'r dudalen yn dechrau mynd yn anghyfleus o hir.
Creu archif[golygu]
Mae archifio eich trafodaethau'r Dafarn yn hawdd. Dewiswch (Highlight) y testun i'w symud a'i dorri (Cut). Yn y blwch Chwilio (ar y chwith ar eich sgrin) rhowch enw eich tudalen sgwrs a rhif yr archif rydych eisiau creu (dyweder "Archif 1"), e.e.
- Sgwrs Defnyddiwr:Enw/Archif 1,
gan rhoi eich enw chi yn lle "Enw". Cofiwch am y flaenslais hefyd!
Cliciwch "Mynd" a bydd tudalen newydd yn agor. Gludwch y testun a gopïwyd gennych yno a chadwch y dudalen: mae eich archif wedi ei chreu.
Pan ddaw'r amser i greu archif newydd, ewch drwy'r un broses eto, ond cofiwch ddefnyddio'r teitl "Archif 2".
Dolen i'r archif[golygu]
Cewch greu dolen syml i'r archif trwy rhoi testun fel hyn ar ddechrau eich tudalen Sgwrs, ar ôl creu'r archif:
- [[:Sgwrs Defnyddiwr:Enw/Archif 1|Archif 1]]
Mae nodyn arbennig ar gael hefyd, sy'n rhoi'r dolen(ni) mewn blwch archif. Cewch weld y nodyn yma.
Rhowch y nodyn i mewn ar ddechrau eich tudalen, reit ar y top, fel hyn:
- {{Blwch archif|[[/Archif 1]]}}
I ychwanegu ail archif, ar ôl ei chreu, ychwanegwch [[/Archif 2]].
Archifio heb greu archif[golygu]
Hyd yn oed os chrëwch chi ddim archif, mae'r hen negeseuon yn eu cadw yn hanes y dudalen. Ond mae'n helpus creu dolennau i'r hen fersiynau perthnasol. Fel dewis arall, felly, dilëwch y negeseuon yn syml (heb eu copio unrhywle), ond wedyn, ewch i'r dudalen hanes, a chymerwch cyfeiriad (URL) fersiwn olaf y dudalen cyn eu dileuad. Ychwanegwch ddolen i'r cyfeiriad hwnmw mewn blwch archif, fel y ddisgrifir isaf (ond fydd angen math o ddolen a ddefnyddir dros gysylltiadau allanol).