gên

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

(1) Gên isaf dynol
(2) Ambroise Thomas â'i law ar ei ên

Cynaniad

  • /ɡeːn/

Geirdarddiad

Celteg *genus o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ǵénu- ‘boch, car yr ên’ a welir hefyd yn y Lladin gena ‘boch’, y Saesneg chin ‘gwaelod yr wyneb’ a’r Ffarseg čâne (چانه) ‘gên’‎. Cymharer â’r Gernyweg gen ‘asgwrn sy’n ffurfio’r geg’, y Llydaweg gen ‘boch’ a’r Hen Wyddeleg gi(u)n ‘ceg’.

Enw

gên b (lluosog: genau)

  1. (corff) Un o’r ddau asgwrn sy’n ffurfio cromgell y geg mewn dyn ac anifail.
  2. (corff) Gwaelod yr wyneb sy’n ymwthio allan dan y geg.
    Roedd barf y dyn yn cuddio'r rhan fwyaf o'i ên.

Cyfystyron

  1. cern, genogl

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau