credu
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈkrɛdɨ̞/
- yn y De: /ˈkreːdi/, /ˈkrɛdi/
Geirdarddiad
Celteg *kred-dī- o’r Indo-Ewropeg *ḱred-dʰeh₁- ‘rhoi’r galon’ a welir hefyd yn y Lladin crēdere, yr Hetheg karatan dai ‘credon nhw’, yr Afesteg zrazda ‘cred’ a’r Sansgrit śraddádhāti (श्रद्दधाति) ‘bod â ffydd (yn), credu’. Cymharer â’r Gernyweg krysi, kreji, y Llydaweg krediñ a’r Wyddeleg creid.
Berfenw
credu berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: cred-)
- Meddwl fod rhywbeth yn wir heb gael unrhyw brawf neu dystiolaeth empeiraidd.
- Rwy’n credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth.
- Derbyn fod rhywun yn dweud y gwir.
- Pam yn y byd oeddwn i wedi dy gredu?
- Ystyried rhywbeth yn debygol.
- Dw i’n credu y bydd hi’n glawio yfory.
Cyfystyron
Cyfieithiadau
|
|