clust

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Godre'r glust

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /klɨːsd/, [klɨːst]
  • yn y De: /klɪsd/, [klɪst]

Geirdarddiad

Celteg *kloustā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ḱleu- ‘clywed’ a welir hefyd yn yr Islandeg hlust ‘corn y glust’ a'r Sansgrit śruṣṭi (श्रुष्टि) ‘ufudd-dod’. Cymharer â'r Wyddeleg cluas.

Enw

clust b (lluosog: clustiau)

  1. (anatomeg) Organ fertebraidd y clyw, sy'n gyfrifol am gynnal cydbwysedd yn ogystal â synhwyro sain ac wedi'i rannu mewn mamaliaid yn y glust allanol, y glust ganol a'r glust fewnol

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau