asgell

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Esgyll (1) pysgod: (1) asgell ddwyfronnol (bronasgell), (2) asgell belfig, (3) asgell gefnol, (4) asgell fras, (5) asgell refrol, (6) asgell gynffonnol
Asgell (2) chwith awyren

Cynaniad

  • /ˈasɡɛɬ/, /ˈaskɛɬ/

Geirdarddiad

Benthycair o'r Lladin llafar ascella ‘adain’. Cymharer â'r Gernyweg askel ‘adain; asgell’ a'r Llydaweg askell ‘adain; asgell’.

Enw

asgell b (lluosog: esgyll)

  1. (anatomeg) Atodyn pilennog ar gorff llawer o anifeiliaid dŵr megis pysgod, morfilogion a morloi, a ddefnyddir i ymsymud ymlaen, llywio a chadw cydbwysedd.
  2. Estyniad ystlysol o awyren sy'n ei alluogi i godi i'r awyr.
    Gwelwyd mwg yn codi o asgell yr awyren.
  3. Ystlys, ochr, ymyl (am adeilad, byddin, cae chwarae, plaid wleidyddol).

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau