Wiciadur:Categorïau

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Am gymorth cyffredinol am gategorïau, gweler Cymorth:Categori. Er mwyn categoreiddio yn Wiciadur, gweler Wiciadur:Categoreiddio.

Defnyddia Wiciadur gategorïau er mwyn cysylltu grŵpiau o dudalennau gyda'i gilydd mewn modd rhannol-awtomatig.

Er mwyn cynnwys cofnod mewn categori[golygu]

Yn syml, er mwyn cynnwys cofnod Wiciadur mewn categori, mae angen cynnwys 'côd' fel [[categori:enw'r categori]] rhywle yn y cofnod, gan amlaf ar waelod y testun a ysgrifennwyd. Os hoffech gynnwys y cofnod mewn mwy o gategorïau, ail-adroddwch y broses ar gyfer pob categori.

Er mwyn gweld y rhestr bresennol o gategorïau...[golygu]

Ewch i Special:Categories.
Creir y dudalen Arbennig yn awtmatig, ac felly mae'n cynnwys enwau syml y categorïau yn unig, yn nhrefn yr wyddor, heb unrhyw esboniad. Ond gallwch chi ddefnyddio botwm "Chwilio" eich porwr i ddod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi.

Gallwch fynd i Special:Allpages i restri'r categorïau (Enw-gofod: Categori) yn nhrefn yr wyddor gan ddechrau gyda gair neu lythyren penodol.

I weld y cofnodion mewn categori[golygu]

Ewch i Special:Categories
O'r fan honno, cliciwch ar y categorïau sydd o ddiddordeb i chi.

Os ymddengys y categori yn y rhestr uchod yn GOCH, yna nid oes unrhywun wedi creu disgrifiad testun o'r categori honno eto. Nid yw Wiciadur yn hoffi hynny. Bydd y feddalwedd Wici yn eich annog i olygu testun y categori hynny. Os mai chi yw'r cyntaf i ychwanegu erthygl i'r categori honno, dylech deimlo'n hynod euog os nad ydych yn diffinio'r hyn y dylai'r categori honno fod yn syth.

I weld aelodau'r categori heb nodi disgrifiad o gategori, cliciwch ar y tab uchaf ar yr ochr chwith ("Categori") i weld yr eitemau.