rhoi

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /r̥ɔi̯/

Geirdarddiad

Ffrwyth cymysgedd o ddau wreiddyn ar wahân (rhoddaf + rhoddif):

  1. Cymraeg Canol roðy ‘rhoi (trosglwyddo)’ o'r Frythoneg *rroðọd o'r Gelteg *φro-dāti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *deh₃- ‘rhoi (trosglwyddo)’ a welir hefyd yn y Lladin dare, y Lithwaneg dúoti, yr Hen Roeg dídōmi (δίδωμι) a'r Sansgrit dadāti (ददाति). Cymharer â'r Gernyweg r(e)i, y Llydaweg reiñ a'r Hen Wyddeleg do·rata (dib.) ‘bo wedi rhoi’.
  2. Cymraeg Canol rodif ‘rhoi (gosod)’ o'r Frythoneg *rroðid o'r Gelteg *φro-dīti o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *dʰeh₁- ‘rhoi (gosod)’ a welir hefyd yn y Lladin -dere, y Saesneg do, yr Hen Roeg títhēmi (τίθημι) a'r Sansgrit dadhāti (दधाति).

Berfenw

rhoi berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: rhodd-, yn llenyddol rhoi-)

  1. Trosglwyddo gwrthrych i feddiant rhywun arall yn rhad ac am ddim.
  2. Amcangyfrif neu ddarogan (amser neu debygolrwydd rhywbeth).
    Byddaf yn rhoi deg munud iddo gyrraedd ac yna rwyn gadael.
  3. Gosod rhywbeth mewn man penodol.
    Roeddwn i wedi rhoi'r arian ar y ddesg.

Amrywiadau

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau