ŷd
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɨːd/
- yn y De: /iːd/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol yt o’r Gelteg *φitu o’r Indo-Ewropeg *péi̯-tu-s ~ *pi-téu̯-s a welir hefyd yn y Sansgrit pitú (पितु) ‘maethiad’ a’r Afesteg pitu (𐬞𐬌𐬙𐬎) ‘bwyd’. Cymharer â’r Gernyweg ys, y Llydaweg ed a’r Wyddeleg íoth ‘braster; saim’.
Enw
ŷd g (lluosog: ydau)
- (botaneg) Unrhyw un o amryw fathau o laswelltau o deulu’r Poaceae a rhai planhigion eraill (fel gwenith yr hydd, cwinoa neu flodyn amor) a dyfir er mwyn eu grawn startshlyd bwytadwy.
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|
