wedi

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /ˈwɛdi/

Geirdarddiad

Ffurf dreigledig ar gwedi, gwedy o'r Hen Gymraeg guotig o'r Frythoneg *wo-tigu- ‘yn y diwedd neu ar ôl y diwedd’ o'r ansoddair Celteg *tigus (a roes yn yr Hen Wyddeleg tiug ‘olaf, diwethaf’) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)teig- ‘pigo, brathu, gwanu; blaenllym’. Cymharer â'r Gernyweg wosa a'r Llydaweg goude.

Arddodiad

wedi

  1. Ar ôl, yn ôl, yn dilyn.

Cyfieithiadau

Geiryn berfol

  1. Fe’i defnyddir gyda’r ferf bod i fynegi’r amser perffaith a’r gorberffaith.