teyrnas

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
7 teyrnas (ystyr 2) dacsonomig

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈteɨ̯rnas/
  • yn y De: /ˈtei̯rnas/

Geirdarddiad

O'r ffurf teÿrnas, tarddair o tëyrn + -as. Cymharer â'r Wyddeleg Canol tigernas.

Enw

teyrnas b (lluosog: teyrnasoedd)

  1. (gwleidyddiaeth) Gwladwriaeth neu lywodraeth sydd â brenin neu frenhines fel prif arweinydd.
  2. (tacsonomeg) Categori mawr dosbarthol wedi'i seilio ar debygrwydd sylfaenol a hynafiaeth gyffredin ac sydd uwchlaw ffylwm ac islaw parth.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau