pridd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Sawl haen o bridd.

Cynaniad

  • /priːð/

Geirdarddiad

Brythoneg *prījess ‘clai’ o'r Gelteg *kʷrīja/et-s o'r Indo-Ewropeg *kʷreh₁-iet- a welir hefyd yn y Lladin crēta ‘sialc; clai’ a'r Tochareg B tukri ‘clai’. Cymharer â'r Llydaweg a'r Gernyweg pri ‘clai, mwd’ ac yn bellach â'r Wyddeleg cré ‘clai, pridd’.

Enw

pridd g (lluosog: priddau)

  1. Haen uchaf arwyneb y ddaear a gyfansoddir o falurion creigiau’n gymysg â gweddillion defnyddiau organig y gellir y tyf planhigion ynddi.
  2. Clai (y crochenydd), mwd neu glai fel defnydd adeiladu.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau