pluen

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Rhannau pluen:
1. llafn
2. coesyn
3. saethflew
4. adbluen
5. cwilsyn

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈplɨː.ɛn/
    • ar lafar: /ˈplɨː.an/
  • yn y De: /ˈpliː.ɛn/

Geirdarddiad

Gynt plufen, plyfen, ffurf unigolynnol y Cymraeg Canol pluf, benthycair o’r Lladin plūma. Cymharer â’r Gernyweg pluv, y Llydaweg plu(ñv) a’r Wyddeleg clúmh ‘manblu’.

Enw

pluen b (lluosog: plu)

  1. (anatomeg, adareg) Alltyfiant gwastad ysgafn uwchgroenol sy’n gorchuddio corff yr adar, ac iddo nifer o saethflew hirgulion cydgloadol yn ffurfio llafn o bobtu i goesyn pigfain cornaidd rhannol wag, ac yn galluogi eu hadennydd i’w codi.
    Adeg rhyfel, rhoddwyd pluen wen i unrhyw ddyn a ystyriwyd yn llwfr.
  2. Dafn unigol o eira, yn arbennig grisial iâ bychan pluog sy’n arddangos cymesuredd chwephlyg cain yn nodweddiadol.
  3. Bach pysgota wedi’i addurno â’r rhain, tinsel, edau lliwgar, a.y.y.b., er mwyn denu pysgod.

Amrywiadau

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Idiomau

Cyfieithiadau