morfil

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Morfil cefngrwm.

Cynaniad

  • /ˈmɔrvɪl/

Geirdarddiad

O'r geiriau môr + mil ‘anifail’; cymharer â'r Gernyweg morvil ‘morfil’, y Llydaweg morvil ‘morfilog’ a'r Wyddeleg Canol muirmíl ‘anifail y môr, pysgodyn’.

Enw

morfil g (lluosog: morfilod)

  1. (swoleg) Unrhyw un o rywogaethau y morfilogion mawr sy’n byw ar y môr mawr, ac iddo ben wedi’i fflatio’n llorweddol, un neu ddau chwythdwll, walbon neu ddannedd conigol, fertebrâu gyddfol wedi’u hasio, ac sy’n well ganddynt ddyfroedd oerach

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau