gwylan

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
gwylan y Môr Tawel, Gabianus pacificus

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈɡʊɨ̯lan/
  • yn y De: /ˈɡʊi̯lan/

Geirdarddiad

Celteg *wailannā o'r enw *wai ‘gofid, wylofain’ a roes gwae. Cymharer â'r Gernyweg golan, y Llydaweg gouelan a'r Hen Wyddeleg faílenn.

Enw

gwylan b (lluosog: gwylain, gwylanod)

  1. (adareg) Unrhyw aderyn y dŵr arfordirol o deulu'r Laridae sydd ag adenydd hir, coesau byr, traed gweog, pig trwchus gweddol fachog a phlu llwyd a gwyn fel arfer.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau