gwlyb

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ɡwlɨːb/
  • yn y De: /ɡwliːb/
    • ar lafar: /ɡwliːb/, /ɡliːb/
  •  gwlyb    (cymorth, ffeil)

Geirdarddiad

Cymraeg Canol gwlyp o'r Hen Gymraeg gulip o'r Gelteg *wlikʷos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯leikʷ- ‘gwlyb’ fel gwleb, gwlith, gwlithen, gwlych ac a welir hefyd yn y Lladin līquī ‘llifo, toddi’ a'r Tochareg A lyīktsi ‘golchi’. Cymharer â'r Gernyweg glyb, y Llydaweg gleb a'r Wyddeleg fliuch.

Ansoddair

gwlyb (benywaidd: gwleb)

  1. Am wrthrych a.y.b. wedi ei orchuddio â hylif.
    Eisteddodd y plant mewn dillad gwlyb ar ôl iddynt fod yn chwarae yn y glaw.
  2. Am y tywydd neu am ddiwrnod, glawiog.
    Fe fydd hi'n wlyb yfory.
  3. Wedi ei wneud o hylif neu leithder.
    Mae dŵr yn wlyb.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau