dweud

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /dweɨ̯d/
  • yn y De: /dwei̯d/

Geirdarddiad

Trwy ryngdoriad o’r ffurfiau dywedud, dywedyd, o’r rhagddodiad do- + y ferf seml *-wedyd o’r Hen Gymraeg guetid o’r ffurf Indo-Ewropeg *u̯éth₂-e- o’r gwreiddyn *u̯ed- ‘siarad’ a welir hefyd yn y Lladin votāre, vetāre ‘gwahardd’ a’r Sansgrit vádati ‘siarad, llefaru’.

Berfenw

dweud berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: d(y)wed-)

  1. I ynganu rhywbeth.
    Allwch chi ddweud eich enw'n arafach os gwelwch yn dda?
  2. Cyfathrebu, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar.
    Roedd e wedi dweud y byddai yma yfory.
  3. Dangos yn ysgrifenedig.
    Roedd yr arwydd yn dweud ei fod yn 50 milltir i Gaerfyrddin.

Amrywiadau

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau