dafn

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Dafn o ddŵr.

Geirdarddiad

Celteg *dawno- o'r ffurf Indo-Ewropeg *dʰeh₂u-no- ar y gwreiddyn dʰuh₂- ‘mygu, niwlo’ a welir hefyd yn y Saesneg dew ‘gwlith’ a'r Lithwaneg dujà ‘gwlithlaw, niwl’.

Enw

dafn g (lluosog: dafnau)

  1. Màs bychan o hylif sydd dim ond yn ddigon i ddal ei bwysau ei hun trwy dyniant arwyneb, gan amlaf wrth gwympo o ffynhonnell yr hylif.
    Diferodd y dafnau glaw oddi ar y lein ddillad.

Cyfystyron

Cyfieithiadau