cnawd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /knau̯d/

Geirdarddiad

Brythoneg *knōto- o'r ffurf Indo-Ewropeg *kneu-t-, amrywiad ar y gwreiddyn *kneid- ‘crafu’ a welir yn yr Iseldireg nijten ‘tolcio, twlcio, hyrddio’, y Latfieg knidēt ~ knudēt ‘cosi’ a'r Hen Roeg knízein ‘crafu; goglais’. Cymharer â'r Gernyweg kneus ‘cnawd’ a'r Llydaweg kreud ‘cnawdolrwydd; corff’; ymhellach â'r Wyddeleg cneá ‘clwyf; briw’.

Enw

cnawd g

  1. Meinwe feddal y corff, yn enwedig cyhyr sgerbydol a braster.
    Rhaid oedd torri peth o'r cnawd ymaith fel rhan o'r llawdriniaeth.
  2. Meinwe anifail, yn enwedig meinwe anifail a ddefnyddir am fwyd.
  3. Lliw melyn-binc, lliw croen rhai Cawcasiaid.
    Gwisgai'r ferch flowsen lliw cnawd.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau