benyw

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈbɛnɨ̞u̯/
  • yn y De: /ˈbeːnɪu̯/, /ˈbɛnɪu̯/

Geirdarddiad

O'r ansoddair Brythoneg *banujos sy'n deillio o'r enw Celteg *ban-, o ba le y daeth y Cymraeg banon ‘brenhines, bun’, yr Hen Lydaweg ban-doiuis ‘duwies’ a'r Hen Wyddeleg ban-chú ‘gast’; cymharer â'r Gernyweg benow ‘benyw(aidd)’. Ymhellach yr Hen Gymraeg ben ‘dynes, benyw’ o'r Gelteg *benā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *gʷḗn. Dybled yr ansoddair yn y Gogledd banw ‘benyw(aidd)’.

Enw

benyw b (lluosog: benywod)

  1. (yn y De) Bod dynol mewn oed ac o'r rhyw fenywaidd.
  2. (gyda grym ansoddeiriol) Amdano neu'n perthyn i'r rhyw a nodweddir gan gametau mwy.
  3. (gyda grym ansoddeiriol) Yn ymwneud â, neu'n gysylltiedig â menyw neu anifeiliaid benyw.

Amrywiadau

Cyfystyron

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau