barcud

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Llun o farcud ysgwydd-ddu
Barcudiaid tegan yn hedfan yn yr awyr
Siâp barcud

Cynaniad

  • Cymraeg y Gogledd: /ˈbarkɨ̞d/
  • Cymraeg y De: /ˈbarkɪd/

Geirdarddiad

Cyfansoddair o'r elfen gyntaf *barg- (fel yn bery ‘aderyn ysglyfaethus’ a'r Hen Wyddeleg berg ‘anrhaith; ysbeiliwr’) a'r ail elfen cud, cut ‘barcud’ (gweler cudyll). Cymharer â'r Gernyweg bargos ‘boda, cudyll’ a'r Llydaweg barged ‘barcud’.

Enw

barcud g (lluosog: barcudiaid)

  1. (adareg) Unrhyw aderyn ysglyfaethus canolig ei faint yn yr is-deulu Milvinae neu yn y genws Elanus o'r teulu Accipitridae sydd ag adennydd hirion, cynffon fforchog a phig gwan ac sy'n bwydo ar drychfilod ac ymlusgiaid bychain yn bennaf. Treuliant llawer o'u hamser yn esgyn uwchben y tir.
  2. (trwy gydweddiad) Tegan ysgafn ar dennyn sydd yn cael ei gario gan y gwynt ac a gaiff ei reoli gan berson sy'n sefyll ar y ddaear gan un llinyn neu fwy.

Amrywiadau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau