Wiciadur:Babel

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Mae nodiadau iaith defnyddiwr yn adnodd gyfathrebu amlieithog sy'n ei gwneud yn haws i gysylltu â rhywun arall sy'n siarad iaith penodol. Dechreuodd y syniad hwn ar Gomin Wicifryngau a chaiff ei ddefnyddio ar Meta-Wici a rhai o'r Wicipedia eraill i ryw raddau. Er mwyn cymryd rhan, gallwch ychwanegu'r Babel i'ch tudalen defnyddiwr trwy ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Dechreuwch trwy deipio {{Babel-
  • Yna ychwanegwch y nifer o nodiadau iaith yr hoffech arddangos, ac yna rhowch | ar ei ôl
    • e.e. {{Babel-3| ar gyfer tair iaith
  • Nesaf ychwanegwch y codau canlynol ar gyfer pob iaith rydych yn medru siarad, gan eu rhannu gyda |, lle xx yw'r côd Wicipedia ar gyfer yr iaith:
    • xx-1 os oes gennych afael elfennol o'r iaith (y gallu i ddeall yr iaith yn ddigon da i fedru defnyddio'r erthygl i lunio'ch erthygl eich hun yn eich iaith eich hun neu i ofyn neu ateb cwestiynau syml)
    • xx-2 os oes gennych y gallu i olygu erthyglau a chymryd rhan mewn trafodaethau
    • xx-3 os ydych yn medru deall neu siarad yr iaith ar lefel uwch (y gallu i ysgrifennu erthyglau yn yr iaith heb anawsterau, ond efallai y bydd ambell wall bychan)
    • xx-4 os yw'ch gallu yn yr iaith yn debyg i hynny sydd gan siaradwr brodorol, ond nid dyna yw eich iaith frodorol
    • xx os mai dyna yw eich mamiaith
  • Gorffennwch drwy ychwanegu braces caedig, fel hyn: }}
Wiciadur:Babel
en This user is a native speaker of English.
Nodyn:User es
Nodyn:User de
Nodyn:User fr
Search user languages

Felly, er enghraifft, byddai {{Babel-2|en|de-1}} yn golygu fod y defnyddiwr yn siaradwr Saesneg brodorol gyda gwybodaeth elfennol o'r Almaeneg. Byddai {{Babel-4|sv|en-3|fr-2|es-1}} yn dynodi siaradwr Swedeg brodorol gyda sgiliau Saesneg uwch, gwybodaeth gymhedrol o Ffrangeg, a gwybodaeth elfennol o Sbaeneg.

Yn ogystal â hyn, gallwch ddefnyddio'r nodiadau ar eu pennau eu hunain, trwy ddefnyddio'r fformat {{User xx-1}}.

Mae'r nodiadau hyn yn eich ychwanegu i'r categori sy'n gysylltiedig â'ch lefel o ddealltwriaeth, ac i'r categori cyffredinol ar gyfer yr iaith honno.

Er mwyn dod o hyd i rywun sydd yn siarad iaith benodol, gweler user languages, a dilynwch y dolenni. Gan amlaf, defnyddir codau o ddwy neu dair llythyren sydd wedi dod o ISO 639, ond gweler y rhestr hon am wybodaeth fanylach.

Gallwch helpu i ehangu'r system hon trwy greu nodiadau ar gyfer eich iaith eich hun. Mae categorïau wedi'u creu eisoes ar gyfer y mwyafrif o ieithoedd sydd â fersiynau o Wicipedia gyda thros gant o erthyglau.


Ieithoedd[golygu]

cy - Cymraeg (Cymraeg)[golygu]

Categori: Defnyddiwr cy

en - English (Saesneg)[golygu]

Categori: Defnyddiwr en